Croeso / Welcome
Yn Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach, rydym yn ymdrechu i ddarparu'r safonau uchaf posibl o addysg a chymorth i'n holl blant. Mae ein hysgol yn lle croesawgar a chyffrous i ddysgu sydd wedi'i lleoli yng nghanol cymuned pentref Waunarlwydd. Mae'n ysgol ofalgar lle mae plant hapus a chyfeillgar yn cael eu meithrin a'u hysbrydoli i wneud y gorau ac i fod y gorau y gallant fod; ‘gallaf lwyddo ond i mi roi cynnig arni’.
Mae cydweithio agos rhwng y cartref a'r ysgol yn bwysig iawn i ni. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd mewn ysbryd o barch a chefnogaeth i'r ddwy ochr, er mwyn darparu'r profiadau gorau i'ch plant ac i ddathlu eu llwyddiant.
Mae dewis yr ysgol gywir gyda’r addysg orau yn hanfodol bwysig i ddyfodol eich plentyn. Rydym am i'ch plentyn deimlo’n ddiogel, mewn amgylchedd iach a sicr. Pe bai unrhyw ymholiad neu bryder gennych , cysylltwch ag athro/athrawes eich plentyn ar y cychwyn cyntaf yn defnyddio cyfeiriad e-bost yr ysgol ygg.loginfach@swansea-edunet.gov.uk. Os ydych am drafod gyda fi yn bersonol, cysylltwch â’r ysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd i’w cael ar y dudalen 'Manylion Cysylltu'. Os hoffech chi ymweld â'r ysgol, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.
Diolch yn fawr,
Mrs Katrin Parkhouse
Pennaeth
At Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach, we strive to provide the highest possible standards of education and support for all our children. Our school is an exciting and happy place to learn, located in the heart of the village community of Waunarlwydd. It is a caring, welcoming school where happy, friendly children are nurtured and inspired to do the best they do and to be the best they can be; 'I can succeed if I try'.
Close collaboration between home and school is very important to us. We work together in a spirit of mutual respect and support, to provide the best experiences for our children and to celebrate their success.
Choosing the right school with the best education is vitally important to your child's future. We want your child to feel safe in a healthy and secure environment. Should you have any query or concerns, please contact your child's teacher at the outset using the school email address ygg.loginfach@swansea-edunet.gov.uk. If you wish to discuss with me in person, please contact the school using the contact details found on the 'Contact Details' page. If you would like to visit the school, please contact us to make an appointment.
Thank you very much,
Mrs Katrin Parkhouse
Headteacher