Skip to content ↓

Ein Gweledigaeth / Our Vision

Yn Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach rydym yn anelu at feithrin dysgwyr sy’n iach, hyderus, gonest a chreadigol. Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’n unigolyn annibynnol ac uchelgeisiol, gyda chariad dwfn at ddysgu a fydd yn eu harwain drwy gydol eu bywyd.

Rydym yn falch o’n Cymreictod a’n diwylliant, ac mae ein gwerthoedd craidd yn llywio pob penderfyniad ac agwedd ar fywyd yr ysgol. Ein bwriad yw creu amgylchedd sy’n ysbrydoli, sy'n gefnogol ac sy'n llawn cyfleoedd i bawb.

Ein Gwerthoedd

🌱 Lles a Diogelwch: Amgylchedd hapus, diogel a gofalgar lle gall pob dysgwr ffynnu wrth flaenoriaethu          lles corfforol ac emosiynol pob aelod o’n cymuned.

🤝 Parch a Charedigrwydd: Meithrin unigolion cwrtais a charedig sy’n parchu eu hunain, eraill, yr                    amgylchedd a diwylliannau gwahanol gan annog empathi, tosturi a safbwyntiau agored.

📚 Dysgu o Ansawdd ac Arloesedd:  Darparu profiadau dysgu arloesol, creadigol a chyffrous sy’n addas         i bawb tra'n cefnogi'n dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial trwy addysgu effeithiol, cydweithio a                  chyfathrebu clir.

🌍 Cynhwysiant a Chyfle Cyfartal: Trin pob dysgwr yn gyfartal, waeth beth fo ethnigrwydd, hil,                        rhywioldeb, crefydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol, a chreu cwricwlwm cynhwysol sy’n                      adlewyrchu'r gymuned amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu.

🎉 Dathlu Llwyddiant: Dathlu pob math o lwyddiant—academaidd, creadigol, diwylliannol, cymdeithasol          ac ym myd chwaraeon, tra'n annog balchder a brwdfrydedd ymhob un o’n dysgwyr.

🏞️ Cymuned: Bod yn ganolbwynt gweithgar a chadarnhaol o fewn ein cymuned Gymreig gan adeiladu             cysylltiadau positif ac ystyrlon â chymunedau lleol a’r byd ehangach.

 

Ein Datganiad Craidd

“Gallaf lwyddo ond i mi roi cynnig arni.”

Mae’r egwyddor hon yn ein harwain i feithrin dysgwyr gwydn, penderfynol ac uchelgeisiol — dinasyddion cryf ar gyfer y 21ain ganrif

 

 

Our Vision

At Ysgol Gymraeg Y Login Fach, we aim to nurture learners who are healthy, confident, honest, and creative. Our goal is to ensure that each child develops into an independent and ambitious individual with a deep love of learning that will guide them throughout their lives.

We take great pride in our Welsh identity and culture, and our core values shape every decision and every aspect of school life. Our intention is to create an inspiring and supportive environment filled with opportunities for all.

Our Values

🌱 Wellbeing and Safety: A happy, safe, and caring environment where every learner can thrive, by              prioritising the physical and emotional wellbeing of all members of our school community.

🤝 Respect and Kindness: Developing courteous and kind individuals who show respect for                          themselves, others, the environment and different cultures whilst encouraging empathy, compassion,            and open-minded perspectives.

📚 High-Quality Learning and Innovation:  Providing innovative, creative, and engaging learning                experiences for all by supporting learners to reach their full potential through effective teaching,                  collaboration, and clear communication.

🌍 Inclusion and Equality:  Treating every learner equally, regardless of ethnicity, race, sexuality,                    religion, or socio-economic background, and delivering an inclusive curriculum that reflects the                 diverse community we serve.

🎉 Celebrating Success:  Celebrating all types of achievement—academic, creative, cultural, social, and        sporting whilst nurturing pride and enthusiasm in all our learners.

🏞️ Community:  Serving as a positive and active centre within our local Welsh community by building            meaningful and effective connections with local and global communities.

 

Our Core Statement

“I can succeed if I give it a try.”

This principle guides us in nurturing resilient, determined, and ambitious learners — strong citizens for the 21st century.